BBC - Ysgolhaig Celtaidd wedi marw (original) (raw)

Dr Rachel Bromwich

Ei phrif waith oedd golygu Trioedd Ynys Prydein

Bu farw'r ysgolhaig, y Dr Rachel Bromwich, yn 95 oed.

Ei phrif waith oedd golygu Trioedd Ynys Prydein sy'n ymwneud â chymeriadau chwedlonol y traddodiad Cymraeg.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau am lenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, gan gynnwys cyfres o lyfrau ac erthyglau am y bardd, Dafydd ap Gwilym.

Dywedodd yr Athro Patrick Sims-Williams o Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth fod ysgolheigion yn parhau i gyfeirio at Trioedd Ynys Prydain.

"Roedd hi'n gyfrol bwysig iawn, yn wyddoniadur o gymeriadau'r chwedlonau.

'Yn werthfawr'

"Mae'n parhau'n waith gwerthfawr iawn."

Dywedodd ei bod hi wedi nodi'r dylanwadau Ffrangeg a Lladin ar y bardd mawr, Dafydd ap Gwilym.

"Bu'n astudio'r Gymraeg am gyfnod o dan Syr Ifor Willams ac roedd yn arwr mawr iddi."

Fe gafodd ei geni yn Brighton a'i magu yn Yr Aifft a Cumbria.

Graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1938 cyn astudio Cymraeg ym Mangor a Gwyddeleg ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast.

Aeth yn ôl i Gaergrawnt fel darlithydd yn 1945 ac fe ddaeth yn Ddarllenydd yn yr Ieithoedd Celtaidd a'u Llenyddiaethau yn 1973.

Ymddeolodd yn 1976 cyn symud i fyw i Wynedd ac Aberystwyth.

Ymhlith ei chyhoeddiadau y mae astudiaeth o wreiddiau Celtaidd y Chwedl Arthuraidd, golygiadau o Culhwch ac Olwen gyda D Simon Evans, gwaith Dafydd ap Gwilym, chwedl Trystan ac Esyllt a dehongliad Matthew Arnold o lenyddiaethau'r Celt.

'Cyfoethogi'

Roedd y gyfrol Ysgrifau Beirniadol XIII yn deyrnged iddi.

Wrth adolygu'r gyfrol dywedodd y Dr Brynley F Roberts: "Un o'r ysgolheigion Saesneg hynny sydd wedi cyfoethogi dysg Gymraeg yw Dr Bromwich.

"Wrth efrydu'i phwnc tyfodd ei serch tuag ato nes iddo beidio â bod yn bwnc yn unig.

"Ymuniaethodd â bywyd a gobeithion pryderus Cymru heddiw, mynnodd fyw yng Nghymru, Cymraeg yw ei hiaith gyda'i chyd-ysgolheigion, a chefnogodd, am ei bod yn deall, bob ymdrech i arfer y Gymraeg yn iaith dysg."