Hafan (original) (raw)
Rydym yn angerddol dros roi'r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg.
Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol agored a llawn bywyd.
Ein Stori
Sefydlwyd Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin yn flaenorol) yn 1971 er mwyn cynnal tirwedd gyfoethog o brofiadau chwarae a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i blant o’u genedigaeth hyd oedran ysgol.
Fel mudiad gwirfoddol sy’n angerddol ynglŷn ag annog a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg, rydym wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd ac yn parhau i ddylanwadu’n gadarnhaol ar fywydau plant yng Nghymru.
Mae’r angerdd, symbyliad a gofal sydd mor amlwg o fewn ein sefydliad yn parhau i ysbrydoli, annog a meithrin cenedlaethau ifancaf Cymru; cenedlaethau a fydd yn ffynnu oherwydd eu hymdeimlad o berthyn, hyder a balchder yn eu galluoedd a’u treftadaeth.
Ein newyddion diweddaraf
Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i'r newyddion diweddaraf am ein gwaith.
Ein swyddi
Mae cyfleoedd i ymuno â'n tîm yn cael eu hysbysebu yma.