Safle Owain Owain. Bardd, Llenor, Gwleidydd, gwyddonydd niwclear gwrthniwclear. (original) (raw)

Safle Owain Owain (1929-1993)

CROESO i safle'r llenor a'r gwleidydd Owain Owain! A NADOLIG LLAWEN I BAWB!

'Proffwyd tanbaid y deffroad iaith a chwip Prydeindod a Seisnigrwydd', oedd disgrifid Emyr LLew o'r gwr hwn. Yn enedigol o Bwllheli, disgrifiwyd ef hefyd fel tad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Tafod y Ddraig... Cyfoeth yr Amrywiaeth... Pensaer y syniad o Fro Gymraeg...

Cerdyn Nadolig Cymraeg gan Owain Owain, Bangor a Phwllheli
Cardiau Nadolig Cynnar:

Gwyddonydd Niwclear Gwrthniwclear... 'Proffwyd tanbaid'... Bardd... Arlunydd...

Sut mae cychwyn disgrifio un o sgwennwyr mwyaf toreithiog ac unigryw yr Ugeinfed Ganrif?

Dewisiwch o'r fwydlen ar y chwith i weld ychydig am fywyd a gwaith un o arloeswyr brwydrau'r Gymraeg.

Fe welwch yma, ar safle Owain Owain, gopiau o'r Tafod y Ddraig cynnar ynghydâ channoedd o lythyrau, erthyglau a storiau byrion y llenor a'r bardd a anwybyddwyd gan y sefydliad. Un o gas bethau O.O. oedd partion jin-a-tonics a sylw. Y burum tawel, gweithgar sy'n creu bara....

' Cyn bod sôn am Gymdeithas yr iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig' medd Maldwyn Lewis. Cafwyd cyfarfod lansio (Awst 1962) a phrotest yn Aberystwyth, ac yna dim. Dim, namyn un person ym Mangor a ddechreuodd greu rhwydwaith o gelloedd led-led Cymru gan ddechrau gyda Bangor, ac aeth ati 'fel mudiad ynddo'i hun' i 'ddyfeisio ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad' (ebe Gwilym Tudur) ac i uno'r mudiad yn genedlaethol drwy gyfrwng ei gylchgrawn newydd 'Tafod y Ddraig'. Ar yr adeg yma, chwedl Geraint Jones (Twm), Owain Owain oedd Cymdeithas yr Iaith.

Yn ôl Dafydd Iwan (Rhagfyr 2007): 'Ym mherson Owain Owain y cafodd ein cenedl un o'n symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol.'

Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain

Yn fyr:

****Y Tafod** Dylunydd bathodyn gwreiddiol y gymdeithas

*** Yn 1965 newidiodd ei enw (a chyfenw'r teulu) o Owen i Owain. Dilynwyd ef gan lawer o Gymry.** *** Dylanwadodd Owain hefyd ar yr Athro J R Jones, a'i lyfr 'Prydeindod' drwy ei lythyrau a'i ysgrifau.**

Llythyrau Yr Athro J R Jones