Latakia (original) (raw)

Latakia

Math dinas, dinas fawr, populated place in Syria Edit this on Wikidata
Poblogaeth 700,000 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Sousse, Mersin, Constanța, Rimini, Aden, Corfu, Genova, Famagusta, Gazimağusa Municipality Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Lattakia Subdistrict Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Syria Syria
Arwynebedd 58 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 35.5236°N 35.7917°E Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Comin
[golygwch ar Wicidata]

Porth Septimius Severus yn Latakia

Dinas hynafol yng ngogledd-orllewin Syria ar y Môr Canoldir sy'n borthladd pwysicaf y wlad honno yw Latakia neu Latakiyah (Arabeg, اللاذقية, Al-Ladhiqiyah; Groeg, Λαοδικεία, trawslythrenir fel Laodicea, Laodikeia neu Laodiceia, Twrceg, Lazkiye; Lladin, Laodicea ad Mare). Mae'n brifddinas talaith Latakia, gyda phoblogaeth o tua hanner miliwn (amcangyfrif). Gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 120 km i'r gorllewin o ddinas Aleppo, tua hanner ffordd rhwng Tartus i'r de ac Antakya i'r gogledd, yn Nhwrci. Ceir bryniau isel tu ôl i'r ddinas.

Mae gan y ddinas hanes hir. Cyfeiria Strabo ati yn ei lyfr Daearyddiaeth (xvi.2.9 et seq.) fel lle cryf gyda harbwr ardderchog, a'r tir o'i chwmpas yn cynhyrchu gwin a allforid i Alexandria. Ar wahanol gyfnodau bu'n gartref i'r Ffeniciaid, a gododd ddinas Ramitha yma, i'r Groegiaid fel dinas Leuke Akte ('penrhyn gwyn'), i'r Seleuciaid ac i'r Rhufeiniaid. Cafodd ei ailgodi a'i ailenwi yn Laodicea gan Seleucus I Nicator, ar ôl ei fam. Cyfeiria Josephus at y bont dŵr a godwyd yma gan Herod Fawr.