carn - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Carnau fforchog o'r iwrch gydag ewinedd fferau amlwg
Cynaniad
- /ˈkarn/
Geirdarddiad
O'r Gelteg *karnos o'r ffurf *ḱr̥h₂-nó-s ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ḱerh₂- ‘corn’ a welir hefyd yn y Lladin cornū ‘corn’, y Saesneg horn ‘corn’ a'r Pwyleg sarna ‘iwrch’. Cymharer â'r Gernyweg a'r Llydaweg karn.
Enw
carn g (lluosog: carnau)
- (swoleg) Gorchudd crwm cornaidd o geratin sy'n gwarchod blaen troed neu'n cau fel gwain am bennau bysedd y traed ar garnolyn ac yn gyfatebol i ewin neu grafanc.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: carnog, carnol
- cyfansoddeiriau: carnewin, carngraff, carngrwn, carnrwym, carnsych
- cyfuniadau: carn fforchog
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Huf g Cernyweg: karn g Eidaleg: zoccolo g Ffinneg: kavio, sorkka Ffrangeg: sabot g Gaeleg yr Alban: ladhar g, ìne b Groeg: οπλή (oplí) b Gwyddeleg: crúb b Hindi: खुर (khur) g Iseldireg: hoef g | Lithwaneg: kanopa b Llydaweg: karn g Portiwgaleg: pezunho g Pwyleg: kopyto d Rwseg: копы́то (kopýto) d Saesneg: hoof Sbaeneg: pezuña b |
|---|