allwedd - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Allweddi
Bysellbad rhifol gyda 16 allweddi
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈaɬwɛð/
- yn y De: /ˈaɬwɛð/
- ar lafar: /ˈaɬwɛθ/
Geirdarddiad
Brythoneg *alkawijo- drwy drawsosodiad y ffurf *aklawijo- o’r enw *klāwos ‘clo’ o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)kleh₂u̯- ‘bach, peg’ gyda rhagddodiad negyddol *n̥-. Cymharer â’r Gernyweg alhwedh a’r Llydaweg alc'hwez.
Enw
allwedd b (lluosog allweddi)
- Offeryn metel bylchog a rhigolog a ddefnyddir i gloi a datgloi drws.
Rhaid oedd rhoi’r allwedd yn y clo er mwyn gallu agor y drws. - Un o’r nifer o fotymau bychan ar deipiadur neu allweddell cyfrifiadur, gyda’r mwyafrif yn cyd-fynd a llythyren neu symbol penodol gan amlaf.
Gwasgwch yr allwedd Escape.
Cyfystyron
- (yn y Gogledd): agoriad
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: allweddell, allweddog, allweddol, allweddu, diallwedd
- cyfansoddeiriau: allweddair, allweddbad, allweddfa, allweddfar, allweddgorn, allweddrych
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Schlüssel g Casacheg: 1 кілт Cernyweg: alhwedh g Daneg: nøgle Eidaleg: chiave b Ffrangeg: clé b Gaeleg yr Alban: iuchair b Groeg: κλειδί (kleidí) d Gwyddeleg: eochair b Iseldireg: sleutel g | Llydaweg: alc'hwez g Pwyleg: 1 klucz g; 2 klawisz g Rwseg: 1 ключ g; 2 клавиша b Saesneg: key Sbaeneg: llave b |
|---|