asgell - Wiciadur (original) (raw)

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Esgyll (1) pysgod: (1) asgell ddwyfronnol (bronasgell), (2) asgell belfig, (3) asgell gefnol, (4) asgell fras, (5) asgell refrol, (6) asgell gynffonnol

Asgell (2) chwith awyren

Cynaniad

Geirdarddiad

Benthycair o'r Lladin llafar ascella ‘adain’. Cymharer â'r Gernyweg askel ‘adain; asgell’ a'r Llydaweg askell ‘adain; asgell’.

Enw

asgell b (lluosog: esgyll)

  1. (anatomeg) Atodyn pilennog ar gorff llawer o anifeiliaid dŵr megis pysgod, morfilogion a morloi, a ddefnyddir i ymsymud ymlaen, llywio a chadw cydbwysedd.
  2. Estyniad ystlysol o awyren sy'n ei alluogi i godi i'r awyr.
    Gwelwyd mwg yn codi o asgell yr awyren.
  3. Ystlys, ochr, ymyl (am adeilad, byddin, cae chwarae, plaid wleidyddol).

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Almaeneg: 1. Flosse b; 2./3. Flügel g Cernyweg: 1./2./3. askel b Daneg: 1. finne; 2. vinge; 3. længe Eidaleg: 1. pinna b; 2./3. ala b Ffrangeg: 1. nageoire b; 2./3. aile b Gaeleg yr Alban: 1. ite b, eithre b; 2. sgiath b Groeg: 1. πτερύγιο (pterýgio) d; 2. φτερό (fteró) d; 3. πτέρυγα (ptéryga) g Gwyddeleg: 1. eite b; 2. sciathán g Iseldireg: 1. vin b; 2./3. vleugel g Llydaweg: 1./2./3. askell b Pwyleg: 1. płetwa b; 2. skrzydło d Saesneg: 1. fin; 2./3. wing Sbaeneg: 1. aleta b; 2./3. ala b