cenau - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Geirdarddiad
Cymraeg Canol keneu o’r Gelteg *kanawon- o’r ffurf *kn̥-Hwon ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *(s)ken- ‘tarddu, hanfod; ffres, newydd, ifanc’ a welir hefyd yn y Rwseg ščenók ‘ci bach’, yr Armeneg skund ‘ci bach’ a’r Sansgrit kanyā́ ‘hogen, hoges’. Cymharer â’r Llydaweg kenow ‘cenau’ a’r Wyddeleg cana ‘bleiddian, cenau’.
Enw
cenau g (lluosog: cenawon)
- (swoleg) Un ifanc o epil rhai anifeiliaid megis arth, blaidd, cath, ci, llew, a.y.y.b.
- Cnaf, gwalch, adyn, dyn drygionus neu ddiffaith.
Cyfystyron
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Junges d, Welpe g Cernyweg: kolyn g Eidaleg: cucciolo g Ffrangeg: petit g Gaeleg yr Alban: cuilean g Gwyddeleg: coileán g Iseldireg: welp g | Llydaweg: kolen g Pwyleg: młode ll. Rwseg: детёныш (detjónyš) g Saesneg: cub Sbaeneg: cachorro g Swedeg: valp c |
|---|