cneuen - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Cnau cymysg mewn bowlen
Cynaniad
Geirdarddiad
Ffurf unigolynnol cnau o'r Frythoneg *know o'r Gelteg *knūs sy'n perthyn i'r Lladin nux a'r Saesneg nut. Cymharer â'r Gernyweg know, y Llydaweg kraoñ a'r Wyddeleg cnó.
Enw
cneuen b (lluosog: cnau)
- (coginio) Hedyn olewog bwytadwy gyda phlisgyn (masgl) caled.
- (botaneg) Ffrwyth anymagorol unhadog ungellanog gyda phlisgyn caled.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: cneua, cneuaidd, cneuog, cneuol
- cyfansoddeiriau: cneubalmwydd, cneubinwydd, cneuddwyn, cneufwytaol, cneuysol
- cneuen ddaear
- cneuen goco
Cyfieithiadau
| Almaeneg: 1. Nuss b; 2. Nussfrucht b Cernyweg: know trf Daneg: nød Eidaleg: noce b Ffrangeg: 1. noix b; 2. fruit à coque g Gaeleg yr Alban: cnò b Groeg: 1. καρύδι (karýdi) d; 2. κάρυο (káruo) d | Gwyddeleg: cnó g Iseldireg: 1. noot b; 2. echte noot b Llydaweg: kraoñ trf Pwyleg: orzech g Saesneg: nut Sbaeneg: nuez b |
|---|