cnoi - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Cynaniad
- /knɔi̯/
Geirdarddiad
Celteg *knā-jo- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *kneh₂- a welir hefyd yn y Lithwaneg knóti ‘plicio, pilio’ a'r Hen Roeg knēstēr ‘math o gyllell’. Cymharer â'r Gernyweg knias ‘briwio bwyd rhwng y dannedd’ a'r Gwyddeleg Canol cnaid ‘treulio trwy frathu neu ddeintio’.
Berfenw
cnoi berf anghyflawn (bôn y ferf: cno-)
- Erydu neu dreulio rhywbeth trwy frathu neu ddeintio yn gyson.
- (yn y De) Cau dannedd, genau neu big o amgylch rhyw wrthrych arall.
Roedd y ci wedi cnoi coes y dyn post. - Briwio neu falu bwyd rhwng y dannedd uchaf a’r rhai isaf.
Cyfystyron
- (2) (yn y Gogledd): brathu
Termau cysylltiedig
Dihareb
Cyfieithiadau
| Almaeneg: 1. nagen; 2. beißen; 3. kauen Cernyweg: 2. bratha; 3. knias Daneg: 1. tygge, bide Eidaleg: 1. rodere; 2. mordere; 3. masticare Ffrangeg: 1. ronger; 2. mordre; 3. mâcher Gaeleg yr Alban: 3. cagainn, cnuasaich Groeg: 1. ροκανίζω (rokanízo); 2. δαγκώνω (dagkóno); 3. μασάω (masáo) | Gwyddeleg: 1. creim, cnaígh; 2. bain greim, bain plaic, bain sclamh; 3. cogain, mungail Iseldireg: 1. knagen; 2. bijten; 3. kauwen Llydaweg: 1. krignat; 2. dantañ; 3. chaokat Pwyleg: 1. gryźć, głodać; 2. odgryzać, odgryźć; 3. żuć, przeżuwać Saesneg: 1. gnaw; 2. bite; 3. chew Sbaeneg: 1. roer; 2. morder; 3. mascar |
|---|