cysgod - Wiciadur (original) (raw)

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cysgodion ar draeth

Geirdarddiad

_cy_- +‎ ysgod o'r Gymraeg Canol ysgawd o'r Gelteg *skātom o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *skeh₃tom, a welir hefyd yn y Saesneg shadow ‘cysgod’, yr Hen Roeg skótos ‘tywyll(wch)’ a'r Albaneg kot ‘tywyll(wch)’. Cymharer â'r Llydaweg skeud, y Gernyweg skeus a'r Gwyddeleg scáth.

Enw

cysgod g (lluosog: cysgodion)

  1. Delwedd tywyll a daflunir ar arwynebedd pan fo'r golau'n cael ei rwystro gan gysgodlen gwrthrych.
  2. Tywyllwch cymharol, yn enwedig pan gaiff ei achosi gan rwystro golau.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Almaeneg: 1./2. Schatten g Cernyweg: 1./2. skeus g Eidaleg: 1./2. ombra b Ffrangeg: 1./2. ombre b Gaeleg yr Alban: 1./2. sgàile b, dubhar g Groeg: 1./2. σκιά (skiá) b Gwyddeleg: 1./2. scáth g Iseldireg: 1./2. schaduw g Llydaweg: 1./2. skeud g Portiwgaleg: 1./2. sombra b Pwyleg: 1./2. cień g Saesneg: 1. shadow; 2. shade Sbaeneg: 1./2. sombra b