dryw - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
dryw Ewrop, Troglodytes troglodytes
Cynaniad
- yn y Gogledd: /drɪu̯/, /drɨu̯/
- yn y De: /drɪu̯/
Geirdarddiad
O bosibl o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *dʰerh₃- ‘llamu’ (a roes Gaeleg yr Alban dàir ‘rhidio, paru’). Am ddatblygiad ystyr, gellir ei gymharu â'r Hen Roeg trochílos (τροχίλος) ‘rhedwr yr Aifft’ sy'n tarddu o'r ferf tréchō (τρέχω) ‘rhedeg’. Cymharer â'r Llydaweg drev ‘siriol, llawen, llon’ a'r Hen Wyddeleg dreän ‘dryw’.
Enw
dryw g/b (lluosog: drywod)
- (adareg) Unrhyw un o'r adar cân bach browngoch o deulu'r Troglodytidae sydd ag adenydd crynion, pig main a'r gynffon fer i fyny.
Cyfystyron
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Zaunkönig g Cernyweg: gwrannen b Eidaleg: scricciolo g Ffrangeg: roitelet g Gaeleg yr Alban: dreathan donn g, dreathan g Groeg: τρυποφράχτης (tripofráchtis) g Gwyddeleg: dreoilín g Iseldireg: winterkoninkje d | Llydaweg: dreolan b, laouenan b Pwyleg: strzyżyk g Saesneg: wren Sbaeneg: chochín g |
|---|