hufen - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Cacen wedi'i gorchuddio â hufen
Cynaniad
- Cymraeg y gogledd: /ˈhɨ̞vɛn/
- iaith lafar: /ˈhɨ̞van/
- Cymraeg y de: /ˈhiːvɛn/, /ˈhɪvɛn/
Geirdarddiad
Celteg *soimeno- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *seikʷ- ‘diferu, llifo’, a welir hefyd yn yr Hen Norseg seimr ‘crwybr mêl’ a'r Hen Roeg haîma (αἷμα) ‘gwaed’. Cymharer â'r Llydaweg koaven ‘hufen’.
Enw
hufen g (lluosog: hufennau)
- Y braster menyn a ddaw o laeth sy'n codi i'r wyneb; y rhan hwn pan gaiff ei wahanu o'r gweddill.
- Lliw gwyn wedi'i felynu.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Sahne b, Rahm g Cernyweg: dehen g Daneg: fløde Eidaleg: panna b Ffrangeg: crème b Gaeleg yr Alban: uachdar g Groeg: κρέμα γάλακτος (kréma gálaktos) b | Gwyddeleg: uachtar g Iseldireg: room g Llydaweg: dienn g, koaven g Pwyleg: śmietana b Saesneg: cream Sbaeneg: nata b |
|---|