morfil - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Morfil cefngrwm.
Cynaniad
- /ˈmɔrvɪl/
Geirdarddiad
O'r geiriau môr + mil ‘anifail’; cymharer â'r Gernyweg morvil ‘morfil’, y Llydaweg morvil ‘morfilog’ a'r Wyddeleg Canol muirmíl ‘anifail y môr, pysgodyn’.
Enw
morfil g (lluosog: morfilod)
- (swoleg) Unrhyw un o rywogaethau y morfilogion mawr sy’n byw ar y môr mawr, ac iddo ben wedi’i fflatio’n llorweddol, un neu ddau chwythdwll, walbon neu ddannedd conigol, fertebrâu gyddfol wedi’u hasio, ac sy’n well ganddynt ddyfroedd oerach
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: morfila, morfilaidd, morfiles, morfilog
- morfil cefngrwm
- morfil danheddog
- morfil du
- morfil ffyrnig
- morfil glas
- morfil gwyn
- morfil pengrwn
- morfil trwyn potel
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Wal g Cernyweg: morvil g Daneg: hval Eidaleg: balena b Ffrangeg: baleine b Gaeleg yr Alban: muc-mhara b Groeg: φάλαινα (fálaina) b | Gwyddeleg: míol mór g Iseldireg: walvis g Llydaweg: balum g Pwyleg: wieloryb g Saesneg: whale Sbaeneg: ballena b |
|---|