pryf - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Pryfed (2): (gyda’r cloc) pryf llwyd, mosgito, pryf lladd, pryf cacynaidd, pryf teiliwr a phryf tŷ
Cynaniad
- yn y Gogledd: /prɨːv/
- ar lafar: /prɨː/
- yn y De: /priːv/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg prem ‘abwyd, pryf genwair, llyngyr’ o’r Gelteg *kʷrimis o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *kʷŕ̥mis a welir hefyd yn y Lithwaneg kirmìs, kir̃mis, y Slofaceg tafod. črm ‘cacynen fawr’ a’r Berseg kerm (کرم). Cymharer â’r Gernyweg pryv ‘abwydyn’, y Llydaweg preñv ‘abwydyn, llyngyren’ a’r Wyddeleg cruimh ‘cynrhonyn; abwydyn’.
Enw
pryf g (lluosog: pryfed)
- (sŵoleg, pryfeteg) Unrhyw arthropod bach o ddosbarth yr Insecta sy’n anadlu aer, ac iddo gorff teiran (pen, thoracs ac abdomen), tri phâr o goesau ac hyd at ddau bâr o adenydd; trychfilyn
- (yn y Gogledd) Trychfilyn byr, llyfn o gorff, o urdd y Diptera (h.y. y dwyadeiniogion), yn enwedig un o deulu’r Muscidae (h.y. y pryfed cylionol), ac iddo ben symudol, pâr o adenydd blaen tryloyw pilennog, pâr o wrthbwysyddion ôl a gên-rannau sugnol neu dreiddiol, ac sy’n epilio cynrhon ac yn bwysig fel peilliwr a chludwr clefyd
Cyfystyron
- pryfyn, trychfil, trychfilyn
- (yn y De) cleren, (yn y De-orllewin) cylionen
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: pryfedaidd, pryfedfa, pryfedog, pryfeta, pryfeteg
- cyfansoddeiriau (ystyr 1): cenbryf, pryfleiddiad, pryfysol, ticbryf
- cyfuniadau (ystyr 2): pryf cacynaidd, pryf chwythu, pryf cig, pryf dawnsio, pryf glas, pryf hofran, pryf lladd ~ pryf lleidr, pryf llwyd, pryf teiliwr, pryf tŷ, pryf tywod, pryf y gors
Cyfieithiadau
| Almaeneg: 1. Insekt d, Kerbtier d; 2. Fliege b Cernyweg: 1. hwesker trf.; 2. kelyon trf. Daneg: 1. insekt, 2. flue Eidaleg: 1. insetto g; 2. mosca b Ffrangeg: 1. insecte g; 2. mouche b Gaeleg yr Alban: 1. meanbh-fhrìde b, frìde b, biastag b; 2. cuileag b Groeg: 1. έντομο (éntomo) d; 2. μύγα (mýga) b | Gwyddeleg: 1. feithid b; 2. cuileog b Iseldireg: 1. insect d, kerfdier d; 2. vlieg g Llydaweg: 1. amprevan g; 2. kelien trf. Pwyleg: 1. owad g; 2. mucha b Rwseg: 1. насеко́мое (nasekómoje) d; 2. му́ха (múxa) b Saesneg: 1. insect; 2. fly Sbaeneg: 1. insecto g; 2. mosca b |
|---|