sain - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Wicipedia
Cynaniad
- /sai̯n/
Geirdarddiad
O'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *sten- ‘rhuo’ a welir hefyd yn yr Almaeneg stöhnen ‘ochain, griddfan’, yr Hen Roeg sténō (στένω) ‘galaru, cwynfan’, y Rwseg stenátʹ (стена́ть) ‘ochain, griddfan’ a'r Sansgrit stánati (स्तनति) ‘clecian, ratlo, rymblan’.
Enw
sain b (lluosog: seiniau)
- Synhwyriad a deimlir gan y glust ac a achosir gan gryniad o aer neu rhyw gyfrwng arall.
Trodd o gwmpas pan glywodd sain y tu ôl iddo.
Cyfystyron
Gwrthwynebeiriau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: atsain, cytsain, seineg, seinio
- cyfansoddeiriau: deusain, persain, seinamledd, seinamlog, seindorf, seinfan