tywyll - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Cynaniad
- Cymraeg y Gogledd: /ˈtəu̯.ɨ̞ɬ/
- Cymraeg y De: /ˈtəu̯.ɪɬ/, /ˈtə.ʊi̯ɬ/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg timuil o'r enw Celtaidd *temēlos o'r ansoddair *temos (a roes yr Hen Wyddeleg tem ‘tywyll (ans.)’) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *temh₁-, a welir hefyd yn yr Hen Almaeneg Uchel demar, y Lithwaneg tamsà a'r Sansgrit támas, i gyd yn yr ystyr ‘tywyll (enw)’. Cymharer â'r Gernyweg tewal (ans.), y Llydaweg teñval (ans.) a'r Gwyddeleg teimheal.
Enw
tywyll g
- Y cyflwr o fod yn dywyll; heb oleuni.
Termau cysylltiedig
Gwrthwynebeiriau
Cyfieithiadau
| Almaeneg: Dunkelheit b Cernyweg: tewlder g, tewolgow ll. Daneg: mørk Eidaleg: tenebre b ll., oscurità b Ffrangeg: ténèbres b ll., obscurité b Gaeleg yr Alban: dorchadas g | Gwyddeleg: dorchadas g Iseldireg: duisternis b Llydaweg: teñvalijenn b, teñvalded b, teñvalder g Pwyleg: ciemność b, mrok g Saesneg: darkness Sbaeneg: tinieblas b ll. |
|---|
Ansoddair
tywyll (benywaidd tywell, lluosog tywyllion)
- Heb lawer o olau.
Nid oedd modd darllen am fod yr ystafell yn rhy dywyll.
Gwrthwynebeiriau
Cyfieithiadau
| Almaeneg: dunkel Cernyweg: tewal Eidaleg: scuro Ffrangeg: sombre, obscur Gaeleg yr Alban: dorcha Gwyddeleg: dorcha Iseldireg: donker, duister | Llydaweg: teñval Pwyleg: ciemny Saesneg: dark Sbaeneg: oscuro |
|---|