uchel - Wiciadur (original) (raw)

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

Geirdarddiad

Cymraeg Canol uchel o’r Gelteg *uxselos, estyniad ar yr arddodiad *uxs- (a roes uwch) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₃eups- a welir hefyd yn yr Hen Roeg hupsēlós (ὑψηλός) ‘uchel, urddasol’. Cymharer â’r Gernyweg ughel, y Llydaweg uhel a’r Wyddeleg uasal ‘bonheddig; aruchel, urddasol; diledryw’.

Ansoddair

uchel (cymharol uwch, eithaf uchaf)

  1. Wedi ei ddyrchafu o ran statws neu safle; y cyflwr o fod uwchben nifer o bethau.
  2. I fod cryn dipyn o bellter o'r ddaear.
  3. Am werth neu nifer, sylweddol neu fawr.
    Mae cyfraddau llog y banc yn uchel iawn.

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Almaeneg: hoch Cernyweg: ughel Daneg: høj Eidaleg: alto Ffrangeg: haut Gaeleg yr Alban: àrd Groeg: ψηλός (psilós) Gwyddeleg: ard Iseldireg: hoog Llydaweg: uhel Pwyleg: wysoki Saesneg: high Sbaeneg: alto