wedi - Wiciadur (original) (raw)
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈwɛdi/
Geirdarddiad
Ffurf dreigledig ar gwedi, gwedy o'r Hen Gymraeg guotig o'r Frythoneg *wo-tigu- ‘yn y diwedd neu ar ôl y diwedd’ o'r ansoddair Celteg *tigus (a roes yn yr Hen Wyddeleg tiug ‘olaf, diwethaf’) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)teig- ‘pigo, brathu, gwanu; blaenllym’. Cymharer â'r Gernyweg wosa a'r Llydaweg goude.
Arddodiad
wedi
- Ar ôl, yn ôl, yn dilyn.
Cyfieithiadau
| Almaeneg: nach Cernyweg: wosa Eidaleg: dopo Ffrangeg: après Gaeleg yr Alban: an dèidh, seach Groeg: μετά (metá) Gwyddeleg: tar éis, i ndiaidh Iseldireg: na | Llydaweg: goude Pwyleg: po Saesneg: after Sbaeneg: después de |
|---|
Geiryn berfol
- Fe’i defnyddir gyda’r ferf bod i fynegi’r amser perffaith a’r gorberffaith.