wyneb - Wiciadur (original) (raw)

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia

Wicipedia

Wyneb dynes

Cynaniad

Geirdarddiad

Hen Gymraeg enep o’r Gelteg *enīkʷom o’r Indo-Ewropeg *h₁en(i)-h₃kʷos o’r gwreiddyn *h₃ókʷs ‘llygad’ gyda’r rhagddodiad *h₁en(i)- ‘mewn’ a welir hefyd yn yr Hen Roeg enōpḗ (ἐνωπή) ‘wyneb’ a’r Sansgrit ánīka (अनीक) ‘wyneb’. Cymharer â’r Gernyweg enep ‘wyneb’, y Llydaweg eneb ‘arwyneb; gwrthwyneb’ a’r Hen Wyddeleg enech ‘wyneb; parch, hunan-barch’.

Enw

wyneb g (lluosog: wynebau)

  1. Y rhan flaen o'r pen, sy'n cynnwys y llygaid, trwyn a'r geg a'r ardal sy'n eu hamgylchynu.
    Mae ganddi wyneb prydferth.
  2. Mynegiant wynebol rhywun.
    Pam yr wyneb trist?
  3. Y deial rhifedig ar gloc neu oriawr.
    Trodd y bysedd ar wyneb y cloc yn araf iawn.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Almaeneg: Gesicht d Cernyweg: enep g Daneg: ansigt Eidaleg: volto g Ffrangeg: visage g Gaeleg yr Alban: aghaidh b, aodann g, gnùis b Groeg: πρόσωπο (prósopo) d Gwyddeleg: aghaidh b, gnúis b Iseldireg: gezicht d, gelaat d Llydaweg: dremm b Pwyleg: twarz b, oblicze d Saesneg: face Sbaeneg: cara b