Mur (original) (raw)
Mur
| Math | adeiladwaith pensaernïol, structural support, fencing structure, separation barrier |
| Rhan o | tŷ, adeilad, amddiffynfa |
| Cysylltir gyda | mawaribuchi, built-in furniture, baseboard |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09qqq |
Mae "pared" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Efallai eich bod yn chwilio am parêd.
Arwyneb fertigol sy'n gwahanu gwagle, e.e. mewn tŷ, neu sy'n gorwedd rhwng dau ddarn o dir i'w gwahanu, yw mur neu wal. Yr hen air Celtaidd oedd magwyr fel a geir heddiw yn y gair blodau'r fagwyr.
Mae daeareg ardaloedd yn wahanol, gan fod y garreg a geir yno'n lleol, ac yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhoi gwedd wahanol i waliau'r ardal. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill, roedd y grefft o godi wal sych (heb forter i'w chynnal) yn hynod bwysig gan fod waliau o'r fath yn rhoi lloches i ddefaid a ffin rhwng dau ffermwr.

Mae'r cerrig hyn wedi dod o lan afon, ychydig fetrau i ffwrdd, gyda llif yr afon dros filoedd o flynyddoedd wedi rhoi iddynt siâp crwm.
Enghraifft debyg, gyda'r cerrig hyn wedi dod o lannau Llyn Mwyngil
Tua 15 metr o'r wal ger y llyn, ceir yr adeilad yma, sydd wedi defnyddio llechen, o'r chwarel leol yn yr adeilad.
Yr un lleoliad (glan Llyn Mwyngil), gyda blaen yr eglwys wedi'i hadeiladu o garreg o ochr y llyn, a'r wal o'i blaen, yn llawer mwy modern - ac o chwarel lechi leol.
Twll dafad yn y wal, i ddefaid fynd o'r naill ochr i'r llall, ond nid y gwartheg
Wal o lechi tennau ger Llanwrin, Powys- Mur Antoninus, mur Rhufeinig ym Mhrydain
- Mur Berlin, a oedd yn gwahanu Gorllewin a Dwyrain Berlin
- Mur Hadrian, mur Rhufeinig ym Mhrydain
- Mur Israelaidd y Lan Orllewinol, mur diogelwch dadleuol rhwng Palesteina ac Israel
- Mur Mawr Tsieina, y mur mwyaf yn y byd
- Mur Mawr CfA2, y gwrthrych mwyaf yn y bydysawd
Wiciadur