Darganfod Wrecsam (original) (raw)

Os ydych yn dewis astudi ym Mhrifysgol Wrecsam yna bydd gennych y gorau o ddau fyd - bywyd dinas a’r cefn gwlad wych.

Mae Wrecsam yn gyforiog o dreftadaeth, gyda golygfeydd hardd a nifer o safleoedd hanesyddol, yn ogystal â chanol dinas brysur gyda siopa gwych, diwylliant ffyniannus ac adloniant, yn ogystal â bywyd nos bywiog. Felly, p’un a ydych yn mwynhau teithiau cerdded golygfaol ac archwilio safleoedd hanesyddol, mynd i siopa a rhoi cynnig ar gaffis a bwytai lleol, neu fynychu lleoliadau adloniant a chael noson allan, mae yna rywbeth at ddant pawb.

Byddwch yn gweld rydym wedi ein lleoli ar y ffin Cymru-Lloegr, lleoliad perffaith am fynediad hawdd i’r dinasoedd agos, sef Gaer, Lerpwl a Manceinion, i’r dwyrain, harddwch garw Eryri i’r gorllewin a thraethau gwych ar hyd arfordir syfrdanol y gogledd.

A rhywbeth arall, mae’n lle hawdd iawn i fynd i. Wedi’i leoli oddi ar yr A483, mae gennym ni gysylltiadau arbennig i bob prif ffordd ar hyd y Gogledd Orllewin, gan gynnwys rhwydwaith bysiau eang ar hyd Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr a’r Canoldiroedd, gan ei wneud yn lleoliad hawdd ei gyrraedd

Mae hefyd gan Wrecsam cysylltiadau rheilffyrdd gwych, gyda dwy brif orsaf sy’n rhedeg gwasanaethau uniongyrchol i Gaer, Caergybi ac ar hyd Arfordir Gogledd Cymru, yr Amwythig, Birmingham a Chaerdydd. Gallwch hefyd fod yn Lloegr o fewn ychydig dros ddwy awr a hanner, Caeredin mewn ychydig dros bedair, a Dulyn mewn llai na chwech. Yn gyfleus, mae Gorsaf Drenau Cyffredinol Wrecsam wedi'i lleoli wrth ymyl ein prif gampws, gan ei gwneud yn berffaith ar gyfer diwrnod allan digymell.

Efallai eich bod chithau hefyd wedi gweld Wrecsam yn y newyddion yn ddiweddar, diolch i'r pryniant llwyddiannus CPD Wrecsam gan yr enwogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae'r clwb hefyd yn digwydd bod yn agos at brif gampws y brifysgol, felly efallai y byddwch yn weld ambell i wyneb enwog o gwmpas! Ac mewn cyd-ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy,, mae Wrecsam wedi cael ei arwydd ‘Holywood’ ei hun i helpu i'w roi ar y map. Gyda chymaint yn mynd ymlaen a chymaint i'w weld a'i wneud, nid oes amser gwell i fod yma.

lucy history student

“Un fantais i Brifysgol Wrecsam yw bod gennych chi'r gorau o'r ddau fyd - mae gennych gefn gwlad gerllaw ac mae gennych y ddinas ei hun hefyd.”

Lucy Duncan Myfyriwraig Prifysgol Wrecsam

Eisiau gwybod yn union pa mor agos ydym ni?

Map of surrounding areas

“Dewisais i astudio yn Wrecsam oherwydd yma, mae ychydig yn fwy bywiog na lle dwi'n dod - mwy o siopa, mwy o lefydd i fynd allan. Ond rwy'n dal yn agos at adref, felly pan dwi eisiau newid golygfeydd, dwi'n gallu jyst hopian ar drên a mynd i gerdded yn y mynyddoedd.”

Ceri-Ellen Speddy Myfyriwraig Prifysgol Wrecsam

ceri theatre student